MYNEGAI


AMDANOM NI


CYNNYRCH


SUT MAENT YN CAEL EI GWNEUD


RYSEITIAU


ARCHEBU


CYSYLLTU

English

Banner

Amdanom ni

| Y dechrau | Y tîm | Adnabod ein cwsmeriaid | Allfeydd rydym yn cyflenwi |

Mae Wafflau Tregroes yn fusnes teuluol, sydd wedi ei leoli ym mhentref Llandysul, Gorllewin Cymru. Maent yn dathlu ei 25ed penblwydd ym mis Tachwedd 2008.

Y Dechrau

Fe ddechreuodd y cyfan o gwmpas coelcerth ar Noson Tân Gwyllt ar y 5ed o fis Tachwedd 1983, lle cafodd y wafflau taffi ei gweithredu gyda llaw ar haearn wafflau bychain, gan rhwydo £50 yn y noson gyntaf yna!

Roedd y syniad wedi tanio…

Mae blynyddoedd o fynychu pob marchnad stryd a pob ffair oedd ar gael wedi ein harwain – yr holl blynyddoedd wedyn – i gynhyrchu o’r adeilad pwrpasol yn Llandysul yn hyfrydwch Dyffryn Teifi yng Ngorllewin Cymru mewn cyfradd o bron 4000 Waffl yr awr, ac yn cyflogi tua 15 o bobl hapus!

Mae gennym presenoldeb gweddol cynhwysfawr yng Nghymru ei hunain – rydym yn dosbarthu iddynt yn uniongyrchol. Rydym hefyd yn cyflenwi i Ad-werthwyr a Chyfanwerthwyr unigol yng ngweddill y Deyrnas Unedig (o dan TREGROES a brandiau hunan-label). Yn ogystal â hynny, rydym hefyd yn allforio i nifer o wledydd tramor…

pen y dudalen

Y Tîm

Mae ein staff wedi’I dynnu o Landysul ar ardal, gyda nifer o’r aelodau wedi bod gyda ni am yr hir-dymor. Mae yna hyd yn oed aelod o staff sydd yn bwyta 4 Waffl Daffi pob amser cinio … Felly mae’n nhw’n rhannu’r nwyd hefyd!

pen y dudalen

Adnabod ein Cwsmeriaid

Rydym yn teimlo ei fod yn bwysig iawn ein bod ni’n adnabod ac yn cwrdd â’n Cwsmeriaid lle bynnag y bônt.

Rydym yn mynychu Sioeau Masnach/Defnyddwyr ac, hyd yn oed nawr, rhai marchnadau o fewn Gwyliau Trefi drwy gydol y flwyddyn.

Mae rhain yn cynnwys:

Gwyl Lle Dyddiad
Sioe Bwyd Llandysul Llandysul 14 Mehefin
Sioe Frenhinol Cymru Llanelwedd 21-24 Gorffennaf
Sioe Bwyd Llambedr Pont Steffan Llambedr Pont Steffan 26 Gorffennaf
Y Caws Mawr Caerffili 25-27 Gorffennaf
Sioe Sir Benfro Hwlffordd 19-21 Awst
Neath Fair Neath 10-13 Medi
Abergavenny Food Festival Abergavenny 20-21 Medi
Ffair Nadolig Llandysul Llandysul 24 Tachwedd
Sioe Frenhinol Gaeaf Llanelwedd 27-28 Tachwedd

A pha bryd bynnag yn bosib, rydym yn cynnal chwaethoedd cynnyrch fel bod pob Cwsmer yn medru darganfod y gwir gorfoledd wrth flasu Wafflu Daffi sydd newid ei dwymo!

Noson Fictoraidd Aberteifi
(Noson Fictoraidd Aberteifi, Aberteifi 2006)

pen y dudalen

 

Allfeydd Rydym yn Cyflenwi

Ar ein tir ein hunain rydym yn cyflenwi drwy ein faniau ein hunain I bob math o allfeydd, o Siopiau Cornel a Choffi I ddelicatessen a’r prif llusorifau (Cymru’n unig).

Dros y ‘ffin’ o Gymru rydym yn cyflenwi yn bennaf drwy Gyfanwerthwyr ar draws y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Spring Fine Foods, Cotswold Fayre, ymhlith eraill) tra ein bod ni’n dal gafael ar ein Cwsmeriaid Ad-werthu sydd wedi, yn hanesyddol, dewis delio yn uniongyrchol gyda ni.

Mae’r Cwsmeriaid Ad-werthu rydym yn arbennig o falch i gyflenwi iddynt o dan label TREGROES yn cynnwys Fortnum & Mason, Harvey Nichols, Lakeland Plastics a Selfridges.

Mynegai | Cynnyrch | Cynhyrchiad | Ryseitiau | Archebu | Cysulltu

Ein Polisi Preifatrwydd / Ein Telerau ac Amodau