Cynnyrch
| Wafflau Taffi | Wafflau Siocled | Amrywiaeth Gyflawn | Gwybodaeth Maethol |
Rydym ni yn Wafflau Tregroes yn cyflenwi dewis eang o Wafflau Taffi a Siocled. Ar gael mewn Siocled Llaeth neu Tywyll neu plaen yn unig, rydym yn darpau ar gyfer pob blas.
Ein Wafflau Taffi
Yn gyson rydym yn derbyn llythyron ac e-byst oddi wrth ein cwsmeriaid sydd yn dwli ar yr holl syniad:
Wafflau Taffi sydd wir yn DIFERU danteithiau, gyda bisged mwyn, ardderchog, sydd yn ymdoddi yn y ceg, gan gyferbynnu gyda’r llenwad tenau o daffi chwedlonol, ychydig yn sbeislyd.
Ar gael mewn paciau o 8 gyda neu heb garton neu mewn paciau snac dwbl, rydych yn medru defnyddio ein wafflau mewn nifer o wahanol ffyrdd. Defnyddiwch hwy fel byrbryd sydd yn rhoi hwb egnïol, cynhwysyn mewn rysait braf, neu prin fel amheuthun blasus gyda’r coffi. Mae ein Wafflau Taffi hefyd yn wych fel anrheg hyfryd ar gyfer teulu neu ffrindiau.
Tra ei bod nhw’n ddanteithiol yn oer, mae nifer o bobl yn mwynhau ein Wafflau Taffi orau pan maent wedi twymo ychydig. Gweler ein tudalen Ryseitiau
Ein Wafflau Siocled
Mae’r rhain mor rhagorol a’n Wafflau Taffi – ond mor wahanol. Ni fyddech am dwymo’r rhain wrth gwrs (byddech yn gwastraffu llawer gormod o’r Siocled ardderchog yna!).
Rydym, yn syml, yn gorchuddio craidd y Waffl Daffi o fewn haen foethus o’r Siocled Belgaidd Llaeth neu Tywyll orau.Maent wir yn odidog.
Ar gael mewn paciau carton o 6 ac mewn paciau snac sengl, mae ein Wafflau Siocled, fel y Wafflau Taffi, yn medru cael ei defnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd.
Beth am byrbryd egnïol yn y gwaith, yn yr ysgol, neu pryd bynnag arall? Ceisiwch ei defnyddio mewn rysáit hyfryd, neu mwynhewch nhw gyda cwpaned o goffi gyda’ch teulu neu’ch ffrindiau.
Cliciwch yma i gael gweld ein amrywiaeth gyfan
Gwybodaeth Maethol
Oes gennych chi alergedd i rhai bwydydd neu ydych chi ar ddeiet? Os hynny, darganfyddwch os yw'n wafflau ni yn addas ar eich cyfer wrth ddewis o'r isod Bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch er mwyn eu darllen. (Mae'r cyswllt yn arwain i gwybodaeth yn Saesneg)
Nutritional Information Toffee Waffles PDF (471kb)
Nutritional Information Milk Chocolate Waffles PDF (481kb)
Nutritional Information Dark Chocolate Waffles PDF (496kb)NODWCH: Mae ein holl gynnyrch yn rhydd o gnau, hadau sesame, neu gynhwysion sydd wedi’i haddasu’n enetig. Nid ydynt yn cario unrhyw lliwiadau neu chyflasynnau artiffisial ac maent yn addas ar gyfer llysieiwyr.