Sut maent yn cael ei gwneud
Gan nad oes dim byd ‘cyffredin’ am y wafflau yma, nid oes llawer yn gyffredin am ei cynhyrchiad ychwaith.
Cam 1: Gwneud y Toes a’r Taffi
Y cam cyntaf yw’r ffurfiad o’r toes, lle mae’r cynhwysion i gyd yn cael ei cloriannu’n ofalus a’i tylino mewn powlen cymysgu enfawr. Yn y cyfamser, mae’r taffi yn cael ei ddwyn at ferwi.
Cam 2: Pobi
Yna, mae’r wafflau yn cael ei pobi ar haearn wafflau sydd yn cylchdroi yn araf o fewn ffwrn mawr crwn sydd wedi’i tanio â nwy. Unwaith bod y cylch yn gyflawn, mae pob waffl yn cael ei dorri mewn siâp cylch glan, yna yn cael hollti i lawr y canol tra ei bod e dal yn dwym.
Cam 3: Llanw’r Taffi
Mae’r ddau hanner yn cael ei gwahanu fel bod y llenwad taffi yn medru cael ei gymhwyso. Yna mae’r ddau hanner yn cael ei ail-uno, gyda phob waffl yn derbyn tap llyfn gofalus er mwyn lledaenu’r taffi i’r ymylon.
Cam 4: Oeri
Ar ôl llenwi’r wafflau â taffi, maent yn cael ei cludo drwy twnnel oeri er mwyn oeri’r wafflau. Ar ddiwedd y twnnel, mae’r wafflau naill ai’n cael ei pacio mewn un o’r ffurfiau amrywiol, neu yn cael ei gosod ar gewyll yn barod ar gyfer cael ei arwisgo â siocled.
Cam 5: Arwisgo â Siocled
Mae’r Wafflau Taffi yna’n cael ei trochi’n llwyr mewn Siocled Belgaidd Llaeth neu Dywyll, ac yna’n cael ei sychu’n chwyth a’i yn yr un ffordd, cyn cael ei pacio.NODER: Mae ein holl dulliau cynhyrchu yn adlynu wrth meini prawf llym yr ‘Hazard Analysis & Critical Control Points (HACCP)’, ac rydym yn falch i gael ein hanrydeddu gan y BRC (British Retail Consortium) i Lefel ‘Uwch’.
Mynegai | Amdanom ni | Cynnyrch | Ryseitiau | Archebu | Cysylltu