Ryseitiau
Mae yna nifer o ffyrdd gwahanol I fwyta ein wafflau taffi a siocled danteithiol. Y rhan fwyaf ohonynt byddwch yn darganfod eich hunain! Os ydych yn creu rysáit y dylem ni wybod amdano, rhowch wybod i ni, rydym wastod yn barod i dderbyn syniadau newydd.
1. Coffi Symlasus
Mae’r cyswllt o’r geiriau “syml” a “blasus” gwir yn sefyll am gynnwys y rysáit yma.Darpariaeth:
Gosodwch waffle taffi uwchben mwg o goffi, cappuccino, tê, neu siocled twym. Arhoswch funud ac yna fe fydd gennych waffl danteithiol sydd wedi ei dwymo ychydig.Ond ar gyfer bisgeden creisionllyd, ceisiwch dwymo’r waffl ar ben gradell neu badell wastad sydd wedi ei wresogi’n barod nes bod y taffi yn dechrau meddalu. Gallech hefyd ei rhoi yn fyr iawn yn y microdon (Cofiwch: mae’r taffi yn medru llosgi os yw’n rhy dwym!)
2. Tipl Waffl Taffi
Beth sydd angen arnoch:
Wafflau Taffi
Bananas
Siwgr Demerara
Brandi
Hufen DwblDarpariaeth:
Twymwch Waffl daffi (un i bob person) yn ofalus mewn padell wastad neu gradell – gan BEIDIO ychwanegu brasder – nes bod y taffi wedi meddalu ychydig. Trowch am ychydig a gosodwch ar blatiau sydd hefyd wedi’i dwymo ychydig.
Twymwch peth menyn mewn padell, gan ychwanegi’r sleisiau o fanana a’r siwgr Demerara. Gadewch iddo frownio ychydig a’r siwgr i garameleiddio. Trowch y waffle unwaith ac yna ychwanegwch ychydig bach o frandi tua’r diwedd. Llwywch ar ben y waffl dwym.Yn yr un badell, ychwanegwch yr hufen ddwbl a mwy o frandi os ydych am, gan ei dwymo a’i flendio’n ofalus. Yn olaf, arllwyswch dros eich pryd ddymunol!
Noder: ar gyfer plant, a.y.y.b. peidiwch defnyddio brandi (a gallwch ef yn rhywbeth gwahanol!)3. Hufen iâ gyda cwarteri waffle a ffrwythau ffres
Beth sydd angen arnoch:
Wafflau taffi neu siocled
Hufen iâ (unrhywbeth rydych yn hoffi)
150 gr o ffrwythau ffres (e.e. Mafon, Mefus, neu Ffrwythau’r Coed)
Hufen ChwipDarpariaeth:
Rhowch cwpl o sgwpiau o hufen iâ mewn gwydr oer. Ysgeintiwch hanner y ffrwythau dros yr hufen iâ ac ychwanegwch mwy o hufen-iâ. Ysgeintiwch gweddill y ffrwythau dros ben yr hufen iâ ac ychwanegwch yr hufen chwip. Yn olaf, twymwch (dim ond y wafflau taffi) y wafflau a torrwch hwy yn ei hanner, gan osod pob hanner bob ochr i’r hufen iâ. Mwynhewch.4. Wafflau Tregroes gyda banana a saws penderyn a wisgi.
Cafodd y rysáit yma ei baratoi gan y cogydd enwog, Dudley, ar ei rhaglen Dudley ar S4C.Cynhwysion:
2 Waffl Tregroes
2 Llwy fwrdd o siwgr brown medal
25g o fenyn
2 banana
Siwgr eising
Hufen
Sbrigyn o fintys ffresDarpariaeth:
Twymwch gyllell mewn dwr twym a defnyddiwch i dorri’r wafflau yn ei hanner i greu 2 ddisg gylchog.Toddwch y siwgr a’r menyn gyda’i gilydd mewn padell ffrio.
Coginiwch y bananas yn y gymysgedd siwgr a menyn.
Ychwanegwch y wisgi a gosodwch ar dân er mwyn flamio’r gymysgedd.
Gosodwch un ddisgen yng nghanol pob plat (yr ochr daffi i fyny) a rhannwch y gymysgedd banana yn gyfartal. Gosodwch yr haneri wafflau sydd ar ôl ar ben y gymysgedd banana (yr ochr daffi i lawr).
I weini:
Gweinyddwch gyda llwyaid hael o hufen, sbrigyn o fintys ffres, ac ysgeintiwch ychydig o’r siwgr eising dros y blat yn ysgafn.