POLISI DYCHWELYD

A oes rhhywbeth o’i le ar yr archeb, neu’r cynnyrch heb fodloni eich disgwyliadau? Gallwch ofyn am ad-daliad o fewn 14 diwrnod calendr o dderbyn eich archeb. Dilynwch y camau canlynol:

  1. Anfonwch e-bost gyda manylion yr hyn rydych chi am ei ddychwelyd i admin@tregroeswaffles.co.uk
  2. Paciwch yr hyn rydych chi’n ei ddychwelyd yn dda a’i anfon i’r cyfeiriad dychwelyd isod.
  3. Bydd tregroeswaffles.co.uk yn anfon e-bost atoch pan fyddwn wedi derbyn yr eitem. Bydd yr e-bost hefyd yn nodi’r cyflwr yr eitem pan gyrhaeddodd ni.
  4. Bydd tregroeswaffles.co.uk yn ad-dalu gan ddefnyddio manylion y dull talu gwreiddiol, a hynny o fewn tri deg diwrnod calendr ar ôl derbyn y cynnyrch a ddychwelwyd.

CYFEIRIAD DYCHWELYD

Tregroes Waffles
Uned 2,
Ffordd Pencader,
Llandysul,
SA44 4AE

AMODAU DYCHWELYD CYNNYRCH

  • Ni allwch ddychwelyd cynnyrch sydd wedi’i bersonoli na chan gwsmeriaid busnes.
  • Rhaid pacio cynnyrch sy’n cael ei ddychwelyd yn iawn.
  • Byddwn ond yn derbyn cynnyrch yn ôl pan fo’r cynnyrch yn ei becyn gwreiddiol a heb ei ddifrodi.
    Ni chewch drin ac archwilio’r cynnyrch yn fwy nag y byddech yn ei wneud fel arfer mewn siop.
  • Nid yw tregroeswaffles.co.uk yn ad-dalu costau dychwelyd neu gostau ychwanegol eraill fel ffioedd tollau.
  • Oni bai ein bod wedi trafod fel arall a’ch bod wedi derbyn label dychwelyd gennym ni.
  • Ni dderbynnir cynnyrch a anfonnir heb i gostau postio fod wedi’u talu, ni fydd yn cael effaith ar y polisi o roi 14 diwrnod calendr i ddychwelyd eitemau a grybwyllwyd eisoes.

DYCHWELYD ARCHEB OHERWYDD CYFEIRIAD ANGHYWIR

Mae’n bosib i www.tregroeswaffles.co.uk dderbyn archeb yn ôl gan y cludwr oherwydd eich bod wedi rhoi’r cyfeiriad anghywir neu nad yw’r archeb yn cael ei chasglu (yn brydlon) o’r man gwasanaeth. Os fydd hyn yn digwydd, bydd rhaid i www.tregroeswaffles.co.uk godi tâl arnoch am y gost o’i dychwelyd. Byddwn yn eich hysbysu o hyn ar ôl derbyn eitem o’r fath.

Eich archeb
View Order

Your cart is empty.