CYFRIF MASNACH TREGROES

I wneud cais am Gyfrif Cwsmer Masnach, bydd angen i chi:

• fod yn ‘fasnachwr’ – sef siop, busnes ar-lein, neu fanwerthwr sy’n gwerthu i gwsmeriaid terfynol

• llenwi’r ffurflen gais masnachwr gan roi holl fanylion angenrheidiol eich busnes

Bydd eich cyfrif yn weithredol o fewn ychydig ddyddiau o ddanfon eich cais i ni (os caiff ei gymeradwyo)

Prif fanteision i gwsmeriaid Masnach

Disgownt Masnach: Cewch ddisgownt ar holl gynnyrch Tregroes

Cludiant am ddim: Mae’r cludiant am ddim os yw’r archeb dros £50, gan arbed mwy o arian i chi

Gostyngiadau Hyrwyddo: Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ostyngiadau hyrwyddo ychwanegol

Archebu Cyfrif Uniongyrchol: Proses archebu symlach gyda mynediad cyfrif uniongyrchol.

Llenwch y ffurflen isod i gofrestru ar gyfer cyfrif masnach.

CYFRIF

CYFEIRIAD ANFONEBU

CYFEIRIAD DOSBARTHU

Telerau ac Amodau

  1. Bydd y cynnyrch yn parhau i fod yn eiddo i “TREGROES WAFFLE BAKERY LTD” hyd nes y telir amdanynt yn llawn.
  2. Dylid gwneud unrhyw ymholiadau ynglŷn â chynnyrch sydd eisoes wedi’i dderbyn o fewn wythnos i’w dderbyn.
  3. Disgwylir i anfonebau gael eu talu o fewn 30 diwrnod i ddyddiad yr anfoneb.
  4. Mae angen i chi gwblhau a dychwelyd y Ffurflen Cyfrif Cwsmer Newydd ar gyfer cyfleusterau credyd.
Eich archeb
View Order

Your cart is empty.