GWASANAETHAU BWYD A MASNACH

Mae Waffls Tregroes yn gynnyrch o safon sy’n boblogaidd iawn ymysg ein cwsmeriaid.

Rydyn ni wedi dyrchafu’r stroopwafel cyffredin yn ddantaith amheuthun, ac yn gwahodd darpar bartneriaid masnach i ymuno â ni ar ein taith.

Beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol?

Buddsoddiad gan ein pobl, buddsoddiad yn ein pobl

Rydyn ni wedi bod yn eiddo i’n gweithwyr ers 2015, felly rydyn ni’n gwybod sut mae meithrin perthnasoedd agos trwy ymddiried a llwyddo.

Cynhwysion wedi’u dethol yn ofalus

Wedi’u gwneud o’r pethau gorau.
Ffynonellau moesegol, a chyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd.

Rydyn ni’n falch o’n treftadaeth

Yn nhawelwch cefn gwlad Cymru, unig fecws waffls y DU a thîm o bobl ymroddgar a gofalgar.

Rydyn ni’n credu mewn cynaliadwyedd

Rydyn ni’n ymdrechu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, nid er mwyn ein cymunedau lleol yn unig, ond er mwyn dyfodol ein byd.

Rydyn ni’n arloesi

Rydyn ni’n gwrando ar ein cwsmeriaid ac ar ein partneriaid masnach er mwyn ymchwilio cynnyrch newydd a chynnig rhywbeth at ddant pawb.

Cynnig o’r radd flaenaf

Wedi’u pecynnu a’u pobi’n berffaith, mae pob un o Waffls Tregroes yn achlysur arbennig– ac maen nhw ar gael mewn amrywiaeth o wahanol flasau a mathau.

BLE I’W PRYNU

Mae Waffls Tregroes i’w cael mewn archfarchnadoedd, delis, caffis, gwestai boutique a B&Bs ar hyd a lled y wlad.

Ewch i un o’r siopau sy’n gwerthu ein cynnyrch neu PRYNWCH AR-LEIN yn uniongyrchol o’n becws.

Eich archeb
View Order

Your cart is empty.